Gweddi a Myfyrdod Wythnosol

Myfyrdodau ar gyfer y Sul Cyntaf wedi’r Drindod

Colect

O Dduw, nerth pawb sy’n  ymddiried ynot, derbyn yn drugarog ein gweddïau  a chan na allwn, gan wendid ein natur farwol, wneud dim da hebot ti, caniatâ inni gymorth dy ras, fel wrth gadw dy orchmynion y bo i ni dy foddhau ar ewyllys a gweithred; trwy Iesu Grist dy Fab ein Harglwydd, sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi, yn undod yr Ysbryd Glân, yn un Duw, yn awr ac am byth.

 

Eseia 65. 1-9

“Yr oeddwn yno i’m ceisio gan rai nad oeddent yn holi amdanaf, yno i’m cael gan rai na chwilient amdanaf. Dywedais, ‘Edrychwch, dyma fi’, wrth genedl na alwai ar fy enw. Estynnais fy nwylo’n feunyddiol at bobl wrthryfelgar, rhai oedd yn rhodio ffordd drygioni, ac yn dilyn eu mympwy eu hunain, rhai oedd yn fy mhryfocio’n ddi–baid yn fy wyneb, yn aberthu mewn gerddi ac arogldarthu ar briddfeini, yn eistedd ymhlith y beddau, ac yn treulio’r nos mewn mynwentydd, yn bwyta cig moch, a’u llestri’n llawn o gawl aflan. Dywedant, ‘Cadw draw, paid â’m cyffwrdd, ‘rwy’n rhy sanctaidd i ti.’ Y mae’r bobl hyn yn fwg yn fy ffroenau, yn dân sy’n mygu drwy’r dydd. Ond y mae’r cyfan wedi ei ysgrifennu o’m blaen; ni thawaf, ond fe dalaf yn ôl; i’r byw y talaf yn ôl eich camweddau chwi a’ch hynafiaid,” medd yr ARGLWYDD. “Am iddynt arogldarthu ar y mynyddoedd, a’m cablu ar y bryniau, mesuraf eu tâl iddynt i’r byw.” Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Fel pan geir gwin newydd mewn swp o rawn, ac y dywedir, ‘Paid â’i ddinistrio, oherwydd y mae bendith ynddo’, felly y gwnaf finnau er mwyn fy ngweision; ni ddinistriaf yr un ohonynt. Ond paraf i epil ddod o Jacob, a rhai i etifeddu fy mynyddoedd o Jwda; bydd y rhai a ddewisaf yn eu hetifeddu, a’m gweision yn trigo yno.

 

Salm 22. 19-28

Ond ti, Arglwydd, paid â / sefyll / draw :

O fy nerth / brysia • i’m / cynor/thwyo.

Gwared fi / rhag y / cleddyf :

a’m hunig / fywyd • o / afael • y / cŵn.

Achub fi o / safn y / llew :

a’m bywyd tlawd rhag / cyrn yr / ychen / gwyllt.

Fe gyhoeddaf dy enw / i’m cyd/nabod :

a’th foli yng / nghanol • y / gynu/lleidfa :

“Molwch ef, chwi sy’n / ofni’r / Arglwydd :

rhowch anrhydedd iddo, holl dylwyth Jacob •

ofnwch / ef, holl / dylwyth / Israel.

Oherwydd ni ddirmygodd na diystyru

gorthrwm y / gorthry/medig :

ni chuddiodd ei wyneb oddi wrtho •

ond / gwrando / arno • pan / lefodd.”

Oddi wrthyt ti y daw fy mawl yn y gynu/lleidfa / fawr :

a thalaf fy addunedau yng / ngŵydd y / rhai • sy’n ei / ofni.

Bydd yr anghenus yn bwyta, ac / yn cael / digon :

a’r rhai sy’n ceisio’r Arglwydd yn ei foli •

bydded i’w ca/lonnau / fyw – / byth!

Bydd holl gyrrau’r ddaear yn cofio

ac yn dychwelyd / at yr / Arglwydd :

a holl dylwythau’r cenhedloedd yn ym/grymu / o’i – / flaen.

Oherwydd i’r Arglwydd y / perthyn • bren/hiniaeth :

ac ef sy’n llywo/draethu / dros • y cen/hedloedd.

 

Galatiaid 3. 23-29

Cyn i’r ffydd hon ddod, yr oeddem dan warchodaeth gaeth cyfraith, yn disgwyl am y ffydd oedd i gael ei datguddio. Felly, bu’r Gyfraith yn was i warchod trosom hyd nes i Grist ddod, ac inni gael ein cyfiawnhau trwy ffydd. Ond gan fod y ffydd hon bellach wedi dod, nid ydym mwyach dan warchodaeth gwas. Oblegid yr ydych bawb, trwy ffydd, yn blant Duw yng Nghrist Iesu. Oherwydd y mae pob un ohonoch sydd wedi ei fedyddio i Grist wedi gwisgo Crist amdano. Nid oes rhagor rhwng Iddewon a Groegiaid, rhwng caeth a rhydd, rhwng gwryw a benyw, oherwydd un person ydych chwi oll yng Nghrist Iesu. Ac os ydych yn eiddo Crist, yna had Abraham ydych, etifeddion yn ôl yr addewid.

 

Luc 8. 26-39

Daethant i’r lan i wlad y Geraseniaid, sydd gyferbyn â Galilea. Pan laniodd ef, daeth i’w gyfarfod ddyn o’r dref â chythreuliaid ynddo. Ers amser maith nid oedd wedi gwisgo dilledyn, ac nid mewn tŷ yr oedd yn byw ond ymhlith y beddau. Pan welodd ef Iesu, rhoes floedd a syrthio o’i flaen, gan weiddi â llais uchel, “Beth sydd a fynni di â mi, Iesu Fab y Duw Goruchaf? Yr wyf yn erfyn arnat, paid â’m poenydio.” Oherwydd yr oedd ef wedi gorchymyn i’r ysbryd aflan fynd allan o’r dyn. Aml i dro yr oedd yr ysbryd wedi cydio ynddo, ac er ei rwymo â chadwynau a llyffetheiriau a’i warchod, byddai’n dryllio’r rhwymau, a’r cythraul yn ei yrru i’r unigeddau. Yna gofynnodd Iesu iddo, “Beth yw dy enw?” “Lleng,” meddai yntau, oherwydd yr oedd llawer o gythreuliaid wedi mynd i mewn iddo. Dechreusant ymbil ar Iesu i beidio â gorchymyn iddynt fynd ymaith i’r dyfnder.

Yr oedd yno genfaint fawr o foch yn pori ar y mynydd. Ymbiliodd y cythreuliaid arno i ganiatáu iddynt fynd i mewn i’r moch; ac fe ganiataodd iddynt. Aeth y cythreuliaid allan o’r dyn ac i mewn i’r moch, a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i’r llyn a boddi.

Pan welodd bugeiliaid y moch beth oedd wedi digwydd fe ffoesant, gan adrodd yr hanes yn y dref ac yn y wlad. Daeth pobl allan i weld beth oedd wedi digwydd. Daethant at Iesu, a chael y dyn yr oedd y cythreuliaid wedi mynd allan ohono yn eistedd wrth draed Iesu, â’i ddillad amdano ac yn ei iawn bwyll; a daeth arnynt ofn. Adroddwyd yr hanes wrthynt gan y rhai oedd wedi gweld sut yr iachawyd y dyn oedd wedi bod ym meddiant cythreuliaid. Yna gofynnodd holl boblogaeth gwlad y Geraseniaid iddo fynd ymaith oddi wrthynt, am fod ofn mawr wedi cydio ynddynt; ac aeth ef i mewn i’r cwch i ddychwelyd. Yr oedd y dyn yr oedd y cythreuliaid wedi mynd allan ohono yn erfyn am gael bod gydag ef; ond anfonodd Iesu ef yn ei ôl, gan ddweud, “Dychwel adref, ac adrodd gymaint y mae Duw wedi ei wneud drosot.” Ac aeth ef ymaith trwy’r holl dref gan gyhoeddi gymaint yr oedd Iesu wedi ei wneud drosto.

 

Myfyrdod

Dw i’n siŵr ein bod ni i gyd wedi sylwi sut mae rhai o anhwylderau wedi mynd yn labeli er mwyn disgrifio pobl. Meddyliwch am y gwyrthiau yn y Testament Newydd lle bod Iesu’n iachau gwahanglwyf. Mae’r salwch wedi mynd yn enw rhywun. Pan mae pobl yn cwrdd â rhywun am y tro cyntaf, maen nhw’n defnyddio eu henwau, nid eu labeli nhw. Dydy pobl ddim yn dweud, ‘Bore da, diabetig ydw i,’ maen nhw’n dweud, ‘Bore da, Joe Bloggs ydw i.’ Mae hi’n hawdd iawn i ni wneud camsyniad lle ein bod ni’n ystyried pobl gan labeli amdanynt sydd wedi dod o bobl eraill. Yn lle defnyddio labeli, mae ymdrech nawr i bobl ddisgrifio eraill fel pobl sydd yn byw gyda salwch arbennig, heb ddefnyddio geiriau fel ‘rhywun sydd yn dioddef gyda rywbeth…’

Yn ein darlleniad heddiw o’r Efengyl yn ôl Sant Luc, mae’r dyn yn y stori wedi cael label, er oedd enw gyda fe eisoes. Mae cwestiwn Iesu’n syml iawn, ‘Beth yw dy enw?’ Mae’r dyn yn ateb ‘Lleng,’ achos bod llawer o gythreuliaid wedi mynd i mewn iddo. Mae’r dyn wedi mabwysiadu disgrifiad ei gyflwr fel ei enw. Y peth sydd yn ddiddorol yn y stori yw’r ffordd bod Iesu’n siarad i’r dyn fel unigolyn ac i’r cythreuliaid ar wahân i’w gilydd. Mae llawer o fanylion yn y stori hon mewn cymhariaeth i straeon eraill yn yr Efengylau lle bod Iesu’n iachau pobl. Efallai bod llawer o fanylion achos bod y stori’n gymhleth iawn, a mae eisiau arnom ymuno gwahanol fanylion er mwyn ddeall y stori’n dda. Neges y manylyn lle bod Iesu’n gofyn i’r dyn beth oedd ei enw yw dangos sut mae Iesu’n trin y dyn fel unigolyn, a nid fel ei label ef. Gallwn ni gymharu’r dyn noeth gyda’r label ‘Lleng’ a’r dyn gyda’i ddillad amdano ac yn ei iawn bwyll. Pan mae labeli gyda ni am bobl sydd yn wahanol i’n gilydd, mae pobl yn cael eu noethni o’u hunaniaeth. Mae hunaniaeth yn fwy nag iechyd yn unig. Beth yw’r pwynt i ni gael ein hadfer o afiechyd i iechyd os nag ydyn ni’n gallu dychwelyd at y pethau a fwynheuon ni cyn ein hafiechyd ni? Dyna pam mae Iesu’n mynnu ei fod e’n dychwelyd adref i eraill weld y gwahaniaeth ynddo fe.

Ar wahân i’r modd bod labeli’n effeithio sut mae pobl yn ystyried pobl eraill, wrth i fi feddwl am y stori hon, gofynnaf i’m hunain, ‘Pwy sydd yn wallgof wyllt yn y stori hon? Lleng neu’r gymuned lle yr oedd fe yn byw?’ Dydyn nhw ddim yn gwybod sut mae gofalu am y dyn, gyda’r canlyniad ei fod ef yn gwaethygu. Maen nhw’n ceisio atebion sydd ddim yn gweithio, gyda’r canlyniad bod ei gymuned ddim yn gallu rhoi cartref iddo. Pan mae pobl yn gweld bod y dyn wedi cael ei adfer i iechyd da, yn lle croesawu Iesu, maen nhw’n awyddus i Iesu ymadael â nhw. Nhw yw’r bobl sydd yn wallgof wyllt hefyd, ond y cwestiwn sydd o’u blaen nhw yw hwn: Ydyn nhw eisiau barhau bod yn wallgof neu ydyn nhw eisiau gwella? Dyna un ffordd i ni esbonio pwysigrwydd y moch yn y stori, achos bod iawn bwyll yn cael ei gyferbynnu gydag eiddo pobl. Mae lles pobl yn mynd yn ail i bobl gwlad y Geraseniaid. Nid yw unigolyn sydd yn wallgof wyllt yma, ond holl bobl y wlad. Mae hi’n ddiddorol i ni weld sut mae Iesu, a oedd yn gallu tawelu’r stormydd ar Fôr Galilea a gwthio allan lleng o gythreuliaid o unigolyn yn penderfynu dychwelyd at ochr arall y môr achos ei fod ef yn gwybod bod agwedd y bobl yn golygu ei fod ef ddim yn gallu gyflawni unrywbeth yn fawr yno.

Wedi dweud hwn, dydy Iesu ddim wedi rhoi’r gorau ar bobl gwlad y Geraseniaid. Mae’r dyn a gafodd ei iachau wedi cael ei anfon yn ôl atynt fel rhyw fath o dyst, os mynnwch. Wrth i ni ddarllen y manylion ar ddiwedd y stori, mae hi’n amlwg bod yr Efengylwyr wedi cynnwys y stori hon er mwyn annog tystiolaeth i waith Iesu ym mywydau pobl ymysg Cristnogion. Y peth sydd yn dod i’r meddwl gan feddwl am dystiolaeth dim ond un dyn yw beth ddywedodd Iesu am lefain sydd yn gallu newid natur y cwbl. Disgrifiodd Iesu Deyrnas Dduw fel lefain, a chan iachau’r dyn, roedd pobl yn gallu gweld nerth Teyrnas Dduw ar waith. Does dim loes i ni brofi pethau sydd yn wahanol i beth sydd yn arfer digwydd; i ni weld rhywbeth o safbwynt ar wahân i’r un sydd arfer yn ein golwg. Efallai dyna sut mae hedau Teyrnas Dduw’n cael eu plannu yn ein bywydau ni fel unigolion a chymunedau. Mae manylion y stori heddiw’n cynorthwyo i ni weld sut mae gwahanol ffyrdd i ni ddeall rhannu newyddion da Teyrnas Dduw: Mae gweithredoedd, yn debyg i weithred Iesu, yn y stori heddiw, yn arbennig gweithredoedd sydd yn ceisio adfer cyflawnder i fywydau pobl. Mae rhannu gair y newyddion da, yn debyg i genhadaeth Iesu yn yr Efengylau, lle ein bod ni’n anelu at rannu gwybodaeth a dealltwriaeth am Iesu a Theyrnas Dduw. Er hynny, mae esbonio wrth eraill, nid gwybodaeth a dealltwriaeth am Iesu a’r ffydd Gristnogol, ond beth mae Duw wedi ei wneud i ni fel unigolion.

Un o’r rhesymau pam mae sut gymaint o fanylion yn y stori heddiw yw dangos yn eglur y gwahaniaeth rhwng afiechyd y dyn, a oedd yn wir, a’r ffaith yr oedd ef wedi cael ei feddiannu gan gythreuliaid, a oedd yn wir hefyd, yn fy marn i. Ar y dechreuad, mae’r ddau beth yn ymddangos yr un: Mae’n amhosibl i bobl eraill fyw gyda’r dyn, a mae fe’n berygl i’w hunan. Efallai bod un rheswm pan mae pobl yn gadael mater drygioni yw’r ffaith bod nerth drygioni ddim yn weledig o’r cwbl, ond mae nerth drygioni’n cael ei adlewyrchu neu ei gynnwys mewn pethau eraill sydd wedyn yn gwneud y drygioni’n weledig. Os oedd afiechyd meddwl gyda fe’n unig, does dim esboniad pam mae’r moch yn mynd i mewn i’r môr. Mae’r moch yn cael eu gwthio gan nerth drygioni i mewn i’r môr. Dydy fe ddim yn dod i Iesu yn ei iawn bwyll, ond achos bod ofn gyda’r cythreuliaid achos bod Iesu’n fwy nerthol na nhw. Dydy’r dyn neu’r moch ddim yn ddrwg yn eu hunain, ond maen nhw’n mynd yn lestri drygioni. Mae drygioni’n gallu gyrru pethau eraill, sydd dim yn ddrwg yn eu hunain, ond maen nhw’n mynd yn gyfryngau drygioni. Dydy’r ffaith bod rhywbeth yn anghywir ddim yn golygu bod y peth yn ddrwg. Gwelodd drygioni gyfle yn afiechyd meddwl y dyn er mwyn cyflawni rhywbeth. Mae drygioni’n gallu defnyddio pethau sydd wedi mynd yn anghywir iddynt fynd yn waeth.

Yma, dychwelwn at y cwestiwn sydd yn gofyn, ‘pwy sydd yn wallgof wyllt?’ Nid y dyn oedd yr unig un yn y stori ond yr holl bobl, fel y dywedais. Dyna rybudd y stori heddiw i ni: Mae ein labeli am bobl a pethau sydd yn wahanol i ni’n gallu mynd ymhellach na bod yn anghywir, maen nhw’n gallu mynd yn ddrwg heb ein sylweddoli. Pan mae pawb wedi cael eu camarwain, gall hwn fynd ymhellach na phawb yn meddwl y pethau anghywir. Mae perygl bod pawb yn dechrau gwneud pethau sydd yn ddrwg heb sylweddoli chwaith.

 

Ymbiliadau

Yn nerth yr Ysbryd ac mewn undeb â Christ, gweddïwn ar y Tad.

 

Hollalluog Dduw, ein Tad nefol, addewaist trwy dy Fab Iesu Grist wrando arnom pan weddïwn mewn ffydd.

 

Nertha John ein Hesgob, a’th holl Eglwys yng ngwasanaeth Crist. Yn y Cymundeb Anglicanaidd, gweddïwn dros Eglwys Esgobol De Swdan. Yn ein Hesgobaeth ni, gweddïwn dros yr Eglwysi cyfamodol yng Nghymru, i ni dyfu mewn union. Boed i’r rhai hynny sy’n cyffesu dy enw fod yn un yn dy wirionedd, cyd-fyw yn dy gariad, a datgelu dy ogoniant yn y byd.

Arglwydd, yn dy drugaredd,

Gwrando ein gweddi.

 

Yn ein Bro Weinidogaeth, gweddïwn dros bawb sydd yn defnyddio ein Neuaddau Eglwysig am wahanol resymau, yn rhoi diolch am y pethau sydd yn tynnu pobl at eu gilydd.

Gwrando ein gweddi.

 

Bendithia ac arwain Elisabeth ein Brenhines, yn cofio heddiw ei hymrwymiad; dyro ddoethineb i bawb mewn awdurdod; a chyfarwydda’r genedl hon a phob cenedl arall yn ffyrdd cyfiawnder a heddwch. Gweddïwn dros waith Y Gymanwlad Brydeinig. Gweddïwn dros ryddid i bobl Wcrain. Boed inni anrhydeddu ein gilydd a cheisio lles pawb phawb.

Arglwydd, yn dy drugaredd,

Gwrando ein gweddi.

 

Cynorthwya i ni werthfawrogi gwreiddiau ein hunaniaeth a phethau sydd yn bwysig i ni yn y presennol er mwyn cydnabod ein hamrywiaeth fel pobl a chymunedau.

Arglwydd, yn dy drugaredd,

Gwrando ein gweddi.

 

Cysura ac iachâ bawb sy’n dioddef, o ran corff, meddwl neu ysbryd. Gweddïwn dros y rhai sydd yn dioddef gydag anghenion llym iechyd meddwl a’r rhai sydd yn gofalu amdanynt. Rho iddynt ddewrder a gobaith yn eu trafferthion a dyro iddynt lawenydd dy iachawdwriaeth.

Arglwydd, yn dy drugaredd,

Gwrando ein gweddi.

 

Dyro ras i ni, i’n teuluoedd a’n ffrindiau ac i bawb o’n cymdogion. Dangos i ni’r ffyrdd ein bod ni’n gallu gwella bywyd ein cymunedau. Boed inni wasanaethu Crist wrth wasanaethu ein gilydd, a charu fel y mae ef yn ein caru ni.

Arglwydd, yn dy drugaredd,

Gwrando ein gweddi.

 

Gwrando ni wrth inni gofio’r rhai hynny a fu farw yn ffydd Crist. Rho dy oleuni i’r rhai sydd yn byw mewn cysgod angau. Yn ôl dy addewidion, caniatâ i ni, gyda hwy, ran yn dy deyrnas dragwyddol.

Arglwydd, yn dy drugaredd,

Gwrando ein gweddi.

 

Gan ymlawenhau yng nghymundeb Dewi Sant a’r holl saint, cyflwynwn ein hunain a’r greadigaeth gyfan i’th gariad di-ffael.

 

Dad trugarog,

Derbyn y gweddïau hyn er mwyn dy Fab, ein Gwaredwr Iesu Grist. Amen.

 

Gweddi Weledigaeth Esgobaethol

Dad, Dygwn ger dy fron ein teulu yn Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu. Agorwn ein calonnau a’n meddyliau i’th Ysbryd:

Bendithia ni wrth inni gyd-gyfarfod yn dy enw; arwain ni wrth inni dyfu ar lun dy Fab; tywys ni â’th Ysbryd i fynd allan a gwneud disgyblion o eraill.

Dduw ein taith, bydd di ein ffordd, a’n gwirionedd, a’n bywyd; ein dechrau a’n diwedd.

Gweddïwn trwy Iesu ein Harglwydd. Amen.

 

Gweddi Derfynol

Dad tragwyddol,  diolchwn i ti am ein maethu â rhodd dy air: bydded i’n bywyd gyda’n gilydd ein nerthu mewn ffydd, ein hadeiladu mewn gobaith, a’n cynorthwyo i dyfu mewn cariad; er mwyn Iesu Grist ein Harglwydd.